PET(4)-06-11 p10a

P-04-336 Papur Cymraeg dyddiol i Gymru

Geiriad y Ddeiseb

Galwn ar Lywodraeth i roi grant i Gyngor Llyfrau Cymru i’w galluogi i gefnogi ac ariannu papur dyddiol yn yr iaith Gymraeg.

Linc i’r ddeiseb: http://www.assemblywales.org/cy/gethome/e-petitions/petitions_under_consideration.htm

 

Cynigwyd gan: Ben Screen

 

Nifer y llofnodion: 37

 

Gwybodaeth ategol:

Mae angen papur dyddiol yn y ddwy iaith i sicrhau fod y llywodraeth yn gallu gweithredu yn ddemocrataidd, sut ar wyneb y ddaear ydy’r Llywodraeth yn gallu llywodraethu yn deg, agored a thryloyw os nad ydy’r bobl sydd yn pleidleisio drostyn nhw ddim yn gwybod yr hyn maent yn ei wneud? Faint o sylw roddir i Gymru gan bapurau dyddiol Saesneg o Loegr? Faint o sylw roddir i Gymru gan y wasg Gymreig, Saesneg ei hiaith? Yr ateb syml, ddim digon o bell ffordd ac mae yn peryglu atebolrwydd y llywodraeth ym Mae Caerdydd ac i feddylfryd y Cymry, a’u synnwyr o hunaniaeth Gymreig. Neges subliminal y rhoddir felly fel canlyniad sydd yn pefrio i mewn i bennau’r Cymry ac sydd yn eu dysgu nad ydy Cymru yn ddigon mawr a phwysig i haeddu sylw y cyfryngau torfol, dyna pam mae pobl yn wfftio’r syniad o bapur dyddiol yn Gymraeg . Prydeindod a gawn yn y papurau yma, nid Cymreictod.